Pam dewis Ceir Ardwyn Cars ar gyfer eich cerbyd nesaf?

Rydym yn fusnes teuluol sydd wedi’i leoli ym mhentref Llan-non ar arfordir y gorllewin – rhyw 10 milltir i’r de o Aberystwyth – ac rydym yn ymrwymo i ddod o hyd i, a darparu, esiamplau prin, anarferol ac anodd-eu-canfod o gerbydau o’r safon uchaf. O cerbydau masnachol ysgafn i BMW i Audi’s cyflym – a phopeth yn y canol – gallwn gael gafael ar y cerbyd i chi.

Rydym yn cynnig gwasanaeth personol heb ei ail. Mae nifer y cwsmeriaid sy’n dod yn ôl eto, neu sy’n cyfeirio pobol eraill atom ni, yn brawf o’n hymroddiad a safon uchel iawn ein cerbydau.
Mae cwsmeriaid yn dweud eu bod yn teimlo mor gysurus wrth ymdrin â ni – sy’n rhywbeth digon prin yn y diwydiant yma.

Rydym yn gwybod bod hynny’n wir, oherwydd mae gennym ni brofiad o’r ddwy ochr o’r busnes prynu ceir – yn gyntaf fel teulu a oedd yn prynu ceir gan werthwyr rhyddfraint, a nawr fel cwmni sy’n gwerthu ceir ein hunain.

Rydym yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw hi bod cwsmeriaid yn teimlo nad ydynt dan bwysau a’u bod yn cael y wybodaeth orau, ond yn fwy na dim, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi bod cwsmeriaid yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Prynu eich cerbyd nawr

Gwasanaethau

Gwasanaethau

Rydym yn hynod o falch o’r gwasanaeth ôl-ofal rydym yn ei gynnig, a byddem yn barod iawn i drefnu unrhyw waith ar y cerbyd ar ôl iddo gael ei brynu – boed yn wasanaeth ffurfiol, yn waith cynnal a chadw neu’n waith atgyweirio.

Cysylltu

Os ydych chi’n prynu cerbyd, yn rhan-gyfnewid neu’n manteisio ar un o’n cynigion ariannu cystadleuol, gallwch fod yn hyderus y bydd Ardwyn yn cynnig y pecyn gorau sydd ar y farchnad.

Dysgu mwy

Mae ein stoc yn newid yn gyson, felly os nad yw’r cerbyd yr ydych chi’n chwilio amdano ar ein rhestr stoc, cofiwch gysylltu â ni.

Y cynigion diweddaraf

“Mae’n gwmni da iawn, ond mae hefyd yn cynnig dêls arbennig iawn, iawn”

David Jones, Tregaron

Trefnwch fynd â cherbyd am sbin

Prynu cerbyd masnachol wrthym ni yw un o’r dewisiadau busnes gorau y gallwch ei wneud.

Trefnu nawr