Yn darparu cerbydau masnachol newydd, bron yn newydd, ac ail-law trwy Gymru gyfan.
Mae cerbydau pic-yp yn rhan annatod o economi Cymru. Maent yn cael eu defnyddio ar gyfer ystod eang o weithgarwch y sector cyhoeddus, er enghraifft gan yr heddlu a’r gwasanaethau brys, ac mae pic-yps yn rhan bwysig o’r hyn sy’n helpu busnesau bach, ffermwyr a’r gymuned amaethyddol i ffynnu. Yn y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi galluogi ein cwsmeriaid yn y sectorau hyn i gael dewis arbennig o pic-yps a cherbydau masnachol sy’n diwallu eu hanghenion dyddiol.
Rydym yn barod iawn i’ch ffonio i drafod y cynigion gorau ar eich cyfer:
Rydym yn gweithio allan o Lan-non, ar arfordir y gorllewin, i ddarparu rhai o’r cerbydau masnachol newydd, bron yn newydd ac ail-law gorau sydd o gwmpas. Rydym hefyd yn manteisio ar ein perthynas arbennig â cherbydau masnachol Nissan i ddarparu’r cerbydau gorau posib. Gan ein bod wedi ein lleoli mewn man mor ganolog sy’n agos at briffyrdd pwysig, gallwn gludo eich cerbyd yn gyflym ac am bris rhesymol – ble bynnag yr ydych chi.
Mae gan ein tîm gwerthu ymroddedig y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddewis y cerbyd masnachol gorau ar gyfer eich anghenion a’ch cyllideb chi. Rydym yn gwirio prisiau ein cerbydau bob dydd i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn manteisio ar y cynigion gorau sydd o gwmpas, heb gyfaddawdu ar yr ansawdd sydd mor hanfodol i’ch busnes chi.
Rydym ni yn Ceir Ardwyn Cars yma ar eich cyfer chi am yr hirdymor. Prynu cerbyd masnachol wrthym ni yw un o’r dewisiadau busnes gorau y gallwch ei wneud. Rhowch gyfle i’n harbenigwyr eich helpu i ddod o hyd i gerbyd sy’n addas i’ch anghenion busnes, trwy gysylltu â ni’n uniongyrchol ar 07976 706514 / 01974 202058.

