Dewisiadau ariannu
Pan fyddwch yn prynu car newydd, ein nod yn Ceir Ardwyn Cars yw sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen am y dewisiadau ariannu sydd ar gael iddynt.
Mae gennym berthynas ardderchog gydag amrywiaeth o arianwyr lleol, sy’n golygu bod modd i ni gael mynediad arbennig i rai o’r pecynnau ariannu gorau sydd ar y farchnad.
Rydym yn falch o’r ffaith bod modd i’n cwsmeriaid siarad â’n brocer ariannol, sy’n cynnig cyfraddau ariannu hynod o gystadleuol ac sy’n gallu dod o hyd i becyn unigryw sy’n diwallu eich anghenion unigol, er mwyn eich helpu i brynu eich cerbyd nesaf yn y modd mwyaf cost-effeithiol ag sy’n bosibl.
Dyma rai o’r trefniannau ariannu sydd ar gael:
1. Prynu trwy hurio
Y trefniant mwyaf syml yw ‘prynu trwy hurio’, sef talu swm penodol bob mis er mwyn gwasgaru’r gost o brynu car dros nifer o flynyddoedd. Manteision y trefniant hwn yw’r ffaith bod symiau’r blaendal yn hyblyg, ond mae cael cyfraddau a thaliadau misol sefydlog yn golygu ei bod yn llawer haws cyllidebu. Mae trefniannau ar gael o 12 i 60 mis, ac mae modd i chi gael dyfynbrisiau ysgrifenedig ar gais.
2. Prynu gyda phrydles
Prynu gyda phrydles yw ein math mwyaf poblogaidd o drefniant ariannu, ac mae’n fwyaf addas ar gyfer ceir â gwerth uwch a chwsmeriaid sy’n hoffi newid eu ceir yn rheolaidd. Mae’n debyg i gytundeb ‘prynu trwy hurio’, ond y prif wahaniaeth yw’r ffaith bod taliad mwy i’w wneud ar ddiwedd y cytundeb. Mae hynny’n golygu bod y taliadau misol llawer yn is, a gallwch ddewis setlo eich cytundeb yn gynnar, rhan-gyfnewid y car, ailddechrau trefniant ariannu, neu dalu’r gweddill.